Datguddiad from Crafangau by Me Against Misery
Tracklist
| 1. | Datguddiad | 4:33 | 
Lyrics
Mae’r eira’n toddi nawr dan draed
purdeb yn diflannu fel ochenaid
a’r gaeaf hir yn dod i ben
a’r holl ddyfaru, dim ond adlais yn fy mhen
ond bydd y rhyfel yn parhau
môr o gorbryder
nid ni yw’r unig rhai
a mae’r diweddglo’n agosau
ti’n talu’r pris am fyw dy fywyd groes i’r graen
 
ond mae gyd yn dod yn glir
ac mae heddwch yn fy nghornel bach o’r byd
a’r creithiau yn y tir
yn gysur dros cyfnodau unig, du
 
dal ar i ronyn bach o ffydd
dal ar i rhywbeth, rhywun, ryw ddydd
ac mae’r olwynion dal i droi
beth yw yfory, heb ddysgu gwersi ddoe?
Credits
                
                
                    
                
                
                
                
                
                
                
                    
                    
                        
                            
                        
                    
                    from Crafangau,
                
                
                    
                        
                            released July 29, 2022
                        
                    
                
                
            








