Ffeit rhwng Gary Numan a The Fall mewn archfarchnad
Mae Ffos Goch, prosiect cerddorol Stuart Estell, yn rhyddhau ei sengl newydd, Siopa, fel teyrnged i’w ddiweddar ffrind, y bardd Brendan Higgins, sef “Big Bren”.
Medd Stuart:
“Bren oedd un o feirdd mwyaf Birmingham, ymhob ystyr. Mynydd / arth o ddyn oedd e, a berfformiai ei farddoniaeth ragorol ar gyflymder o gan milltir yr awr. Roedd ei berfformiadau’n eithafol o gryf, doniol tu hwnt, gwrthwynebol.
Bu farw Bren ym mis Ionawr. O’n ni eisoes wedi bod yn trafod sengl Nadoligaidd ar gyfer eleni. Mae’r ffolder o’i eiriau ar y llawr wrth ymyl fy nesg. Rwy’n gweld eisiau fe.
Felly, dyma fy ymateb i’w gerdd fwyaf adnabyddus - “Shopping”. Rwy’n dychmygu Bren yn siopa yn y nefoedd, ac rwy wedi ceisio cyfleu rhywfaint o’i ysbryd gyda'r llais a'r gerddoriaeth, sy'n swno braidd fel ffeit rhwng Gary Numan a The Fall (ac efallai Add N to (X)). Dros y misoedd nesa, bydda i’n rhyddhau dwy gân arall sy’n seiliedig ar fersiynau Cymraeg o gwpl o’i gerddi. Bydd unrhyw elw yn mynd i’r elusen Hoarding UK, gyda phwy roedd e’n arfer gweithio.”