Mae Ffos Goch, prosiect cerddorol Stuart Estell, yn rhyddhau ei sengl newydd, "Blino", darn â naws dywyll, atmosfferaidd. Mae'r geiriau'n seiliedig ar gerdd o'r gyfrol "Hen Benillion" a olygwyd gan T.H. Parry-Williams, ond yn lle cyfeirio at y byd amaethyddol, mae'r darn yn canolbwyntio ar gyflyrau meddyliol cyferbyniol.